
Eifion Davies - MSc mewn Dylunio Cynnyrch Uwch
Pan ddechreuodd y myfyriwr dylunio Eifion Davies ei radd israddedig ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2006, nid oedd erioed wedi teithio dramor. O fewn ychydig flynyddoedd roedd Eifion wedi gweithio ac astudio mor bell i ffwrdd â Beijing a De Corea.
Astudiodd Eifion yr MSc mewn Dylunio Cynnyrch yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, ar ôl cwblhau ei radd israddedig.
Dywedodd: "Roeddwn yn awyddus iawn i barhau i astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a chefais fudd o'r dosbarthiadau bach a'r cymorth un i un a gynigiwyd gan diwtoriaid y cyrsiau."
Yn ystod ei MSc, cafodd Eifion y cyfle i astudio yn Samsung Art & Design Institute (SADI) yn Ne Corea, fel rhan o gydweithio a phartneriaeth barhaus Prifysgol Fetropolitan Caerdydd â'r sefydliad hwnnw.